Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Hall o Benbedw
Cyfarwyddwr Cyffredinoly BBC
Annwyl Tony,
Llywodraethu rhanbarthol yn y BBC
Cynhaliodd Pwyllgor newydd y Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwylliant, yr iaith Gymraeg a chyfathrebu ei gyfarfod cyfarfod cyntaf ddoe (7 Gorffennaf), gan nodi â phryder eich cyhoeddiad y bydd rôl newydd yn cael ei chreu fel Cyfarwyddwr y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.
Roedd y datganiad a wnaed gennych ar 6 Gorffennaf 2016 yn crybwyll y ffaith y bydd y cyfarwyddwyr yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r canolfannau rhanbarthol yn adrodd i ddeiliad y rôl hon. Golyga hyn na fyddai Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales bellach yn rhan o'r tîm gweithredol.
Rydym yn pryderu y byddai'r newid hwn yn gwanhau llais Cymru (a lleisiau'r gwledydd datganoledig eraill) ar adeg pan mae'r BBC yn ceisio adlewyrchu natur newidiol yr Undeb yn well.
A fyddai'n bosibl i chi roi rhagor o fanylion inni ynghylch sut y bydd ail-sefydlu rôl Cyfarwyddwr y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yn sicrhau bod gan Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill lais cryf yn y BBC ledled y DU yn y dyfodol?
Yn gywir
Bethan Jenkins AC
Cadeirydd
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru